Bron yn hanner amser i Eilir Pierce

Mae’r cerddor amgen cynhyrchiol, Eilir Pierce, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.

‘Coach’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ganddo ers 14 Awst, ac mae’n flas cyntaf o’i albwm nesaf ‘Half Time’ fydd yn cael ei ryddhau yn yr hydref.

Mae’r sengl yn cydfynd â sioe mae Eilir Pierce yn ei berfformio yng Ngwyl Gomedi Caeredin yn ystod mis Awst.

‘Half Time’ ydy enw ei sioe yng Nghaeredig hefyd ac mae’n gcabaret synth-pop 50 munud am uchelgais, heneiddio a’r gobaith hurt y gallai’r ail hanner dal fod yr un lle mae popeth yn newid.

Dyma fideo ‘Coach’:

Gadael Ymateb