‘Gaddo Glaw’ ydy’r sengl ddiweddaraf gan brosiect y cerddor amryddawn, Gruff ab Arwel, sef Bitw.
Mae ‘Gaddo Glaw’, y sengl gyntaf o albwm o’r un enw sydd ar y ffordd gan Bitw, yn flas reit gas mewn gwirionedd o’r hyn sydd i ddod yn ôl y cerddor.
Mae’r gân ar un agwedd yn rhybudd hawdd ei lyncu i gadw llygad ar y cymylau du sydd uwch ein pennau, ond ar ffurf cerddoriaeth bop sgi-wiff gyfarwydd Bitw.
Bitw yw prosiect unigol Gruff ab Arwel. Ag yntau bellach yng nghanol ei dridegau, byddai’n deg ichi ddweud ei bod yn hen bryd iddo roi’r gorau iddi, ac mi fysa Gruff ei hun yn cytuno efo chi. Ond haws dweud na gwneud, felly tan ei fod yn meddwl am rywbeth gwell i wneud, dyma sut y bydd hi beryg.
Bydd ei albwm diweddaraf, ‘Gaddo Glaw’, allan ar 30 Hydref, ac yn un o’r albyms rhataf i gael ei greu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, gyda Gruff yn mynd ati’n ddiwyd i arbed pob ceiniog a thorri pob cornel wrth greu ei gyfanwaith mwyaf llwm hyd yma.
Mae hi’n gaddo glaw trwm iawn ym marn Gruff, rhy drwm i unrhyw ymbarél neu gân bop allu gwneud fawr ddim amdano. Meddyliwch am beth bynnag ydi’r gwrthwyneb i ’daw eto haul ar fryn’ ac mi fyddwch chi’n weddol agos ati. Ac os oes ’na lygedyn o obaith, fydd hi ddim yn hir tan ddaw rhywun heibio i roi ei fys ynddo.