Mae’r grŵp o Sir Gâr, Los Blancos, wedi dychwelyd gyda’u sengl newydd, ‘Olew’r Olewydd’.
Y newyddion da pellach ydy bod y newydd flas cyntaf o’u trydydd albwm sydd ar y ffordd, ac mae’n gipolwg ar fand sydd bellach bron yn ddeg oed bellach.
Dros y degawd diwethaf, mae’r pumawd o Sir Gaerfyrddin wedi dod yn un o leisiau mwyaf nodedig cerddoriaeth amgen Gymraeg, gan greu sain sy’n cyfuno slacker rock, syrff, pync, shoegaze a dylanwadau canu gwlad, ond sydd wastad yn gwbl driw iddyn nhw eu hunain.
Ar ôl cyfnod o flinder creadigol, cymerodd y band gam yn ôl yn ddiweddar. Roedd ‘Olew’r Olewydd’ yn un o’r demos cyntaf a wnaeth i bopeth glicio eto. Roedd yr ymateb yn syth: dyma’r sain.
Mae’r gân yn un o’r enghreifftiau cliriaf eto o ethos slacker Los Blancos. Mae’n rhydd, greddfol ac yn llawn cymeriad, gyda groove hamddenol, gitarau pigog a fflachiadau o Beck cynnar, ochr yn ochr ag ysbryd Pavement, Pixies, The Velvet Underground a Neil Young.
Yn y geiriau, mae’r gitarydd, Cian, yn edrych ar yr arfer o arsylwi bywydau pobl eraill o bell, cyn troi’r lens yn ôl arno’i hun. Mae hiwmor sych a hunanymwybyddiaeth wrth galon y gân, ynghyd â gwrthwynebiad i ddiwylliant hustle, hunan-optimeiddio a’r pwysau cyson i fod yn gwneud mwy.
Cynhyrchwyd yr albwm newydd gan y band eu hunain dan arweiniad y drymiwr Emyr Siôn, a recordiodd ‘Olew’r Olewydd’ hefyd.
Mae’r sain yn dal y cemeg rhwng pum ffrind sydd wedi treulio bron i ddegawd yn gwneud cerddoriaeth gyda’i gilydd.
Mewn ffordd, dyma foment ‘The Basement Tapes’ (Bob Dylan) neu ‘Music From Big Pink’ (The Band) Los Blancos fel band. Nid oherwydd bod y record yn swnio fel y rheiny, ond oherwydd ei bod yn dal y band ar foment benodol yn eu bywydau, yn ôl at y pethau syml: cyfeillgarwch, caneuon a’r awydd i wneud cerddoriaeth gyda’i gilydd.