Yn dilyn eu perfformiad hanesyddol yn Ngŵyl Download, fel y band cyntaf i berfformio yn y Gymraeg yn yr ŵyl, mae’r band nu-metal o Fangor, C E L A V I yn rhyddhau eu hanthem newydd nu-metal Gymraeg.
C E L A V I ydy’r ddeuawd Sarah Wynn Griffiths a’i gwr Gwion Griffiths.
Yn enwog am eu sain arloesol sy’n torri tir newydd, mae C E L A V I yn cyflwyno anthem ffyrnig a di-ildio gyda ’13’.
Wedi’i ysgogi gan egni crai, dwysedd di-baid ac agwedd ddigyfaddawd, mae’r trac yn dal dull unigryw’r ddeuawd o greu cerddoriaeth nu-metal yn y Gymraeg.
I ffans o Bring Me The Horizon, Linkin Park, Korn a BABYMETAL, mae’r trac yn ddatganiad pwerus o wydnwch, hunan-gred ac o wrthod cael eich tawelu.
“Mae ‘13’ yn gân hynod rymus ac hyderus – yn anthem i ni’r underdogs, ac yn llawn agwedd” meddai Sarah.
“Mae’r gân yn ffyrnig ac yn cynnwys ein sain nu-metal nodweddiadol, ond da ni wedi datblygu ac ymestyn y ffiniau ymhellach, gan gadw’r Gymraeg wrth wraidd y cyfan” ychwanegodd Gwion.
Yn dilyn cefnogaeth ddiweddar gan Metal Hammer a Kerrang! Radio, cafodd y trac ei recordio, ei gynhyrchu, ei gymysgu a’i feistroli gan Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Motörhead, Nova Twins), ac mae’n rhan o EP newydd C E L A V I, ‘PRAELIA’, sy’n cael ei ryddhau ar 13 Tachwedd 2026.
Mae’r fideo cerddoriaeth ar gyfer ’13’ yn cynnwys ceir gan Unit Thirteen – y brand poblogaidd sy’n ymwneud â ffordd o fyw sy’n canolbwyntio ar geir – gan ddod â cherddoriaeth a diwylliant ceir ynghyd mewn cydweithrediad gweledol trawiadol sy’n dal egni crai, agwedd a naws ddigyfaddawd y trac.
Yn dilyn perfformiadau arwyddocaol yng Ngŵyl Download 2026, Castell Cas-gwent yn cefnogi As December Falls ac SXSW Llundain 2026, ochr yn ochr â’u hymddangosiad headline rhyngwladol cyntaf yng Ngŵyl Pro Weekend 2026 yn Sbaen, mae C E L A V I yn adeiladu momentwm gyda chyfres o sioeau headline dal i ddod eleni.
Mae’r perfformiadau hyn yn parhau i nodi pennod newydd gyffrous i’r ddeuawd wrth iddynt barhau i ehangu eu cyrhaeddiad a dod â’u nu-metal gwreiddiol ac unigryw yn yr iaith Gymraeg i gynulleidfaoedd ehangach.
Dyma’r fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac: