Wedi blwyddyn o saib, mae trefnwyr Gŵyl Cefni, a gynhelir yng nghanol tref Llangefni ar Ynys Mon, wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad yn dychwelyd yn 2027.
Penderfynodd y pwyllgor sy’n trefnu Gŵyl Cefni i gymryd blwyddyn o egwyl yn 2026 er mwyn gweithio ar ddatblygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Maent bellach wedi datgelu bydd yr ŵyl yn dychwelyd ar benwythnos 4–5 Mehefin 2027. Maent wedi cyhoeddi hefyd y bydd Gŵyl Cefni Bach yn cynnig blas o’r hyn sydd i ddod i ganol Llangefni ar 5 Rhagfyr eleni.
Dywed y trefnwyr y byddant yn cyhoeddi mwy o wybodaeth, gan gynnwys enwau’r artistiaid sy’n perfformio dros y misoedd nesaf.