‘Pelydrau’ ydy’r drydedd sengl i’w rhyddhau oddi ar record hir ddiweddaraf Bitw, ‘Gaddo Glaw’, sydd allan wythnos nesaf.
Cân sy’n swnio’n hapus ond sydd ddim ydy hon, fel y byddech yn ei ddisgwyl bellach os ydych chi’n un o’r bobl sydd wedi gwrando ar y ddwy sengl gyntaf o’r record sydd eisoes wedi gweld golau dydd.
Ymhlith yr holl boeni bod pethau’n mynd yn waeth yn raddol, yma mae Gruf ab Arwelf yn pendroni a fyddai’n well pe bai pawb a phopeth yn dod i ben ar yr un pryd. Hip hip hwrê.
‘Pwrs y Wlad’ yw ail drac y seng ddwbll, neu ‘ochr b’ y sengl pe bai na ddigon o bres mewn canu pop Cymraeg i wasgu senglau go iawn.
Mae’r gân yma’n ddathliad o sosialaeth, cymuned a’r wladwriaeth les…ond gyda saxophone.
Dyma fideo ‘Pelydrau’: