Cam Gwag yn rhyddhau fersiwn newydd o drac o’r 80au

Mae’r band sy’n cynnwys criw o gerddorion profiadol, Cam Gwag, wedi rhyddhau eu fersiwn o drac o’r 1980au fel sengl. 

Mae Cam Gwag yn cynnwys cyn aelodau o lwyth o fandiau gan gynnwys Bran, Mwg, Rhiannon Tomos a’r Band, Louis a’r Rocyrs a’r Moniars.

Cân serch gyda chefndir amgylcheddol ydy, ‘Darn O’r Haul’, a gafodd ei ’sgwennu’n wreiddiol ym 1986.

Mae’r geiriau grymus y Prifardd Ieuan Wyn, a’r alaw gofiadwy gan Steve Roberts, oedd yn brif leisydd y band Mŵg ar y pryd. Roedd y ddau yn gymdogion ym Methesda. 

Cafodd y gân ei recordio gan‘Mŵg yn stiwdio Sain, gyda Mered Morris yn cynhyrchu, a’i ryddhau fel sengl i nodi ymweliad Eisteddfod Yr Urdd a’r ardal.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, gyda Steve a Mered bellach yn aelodau o’r band, Cam Gwag, dyma benderfynu recordio fersiwn newydd o’r gân, i gynnwys pennill ychwanegol wedi eu hysgrifennu gan Ieuan. 

Gofynnodd y band i’r gantores Esyllt Tudur i ganu’r gân fel deuawd gyda Steve. 

Tua’r un adeg, wrth wrando ar Radio Cymru rhyw fore Sul, fe glywodd Mered y recordiad gwreiddiol yn cael ei chwarae, gyda’r cyflwynydd, Linda Griffiths, yn awgrymu y byddai’n wych i glywed fersiwn gorawl ohoni. 

Dyma arweiniodd at ofyn i gôr cymysg, ‘CoRwst’, dan arweiniad Elin Angharad Davies, i ymuno a’r prosiect.

Mae’r cyfuniad o fand roc, a lleisiau Esyllt a CoRwst wedi creu fersiwn newydd egnïol a chyffrous o’r gân!

Gadael Ymateb