Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion eu gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Clwb Rygbi Crymych fydd lleoliad gigs y Gymdeithas yn ystod wythnos Eisteddfod y Garreg Las, gydag adloniant o nos Sadwrn gyntaf yr Eisteddfod ar 2 Awst nes y nos Sadwrn olaf ar 8 Awst.
Bydd yr wythnos yn dechrau ar y nos Sadwrn gyntaf gyda Cowbois Rhos Botwnnog a Rhi Jorj.
Bydd teimlad retro i’r nos Lun wrth i dri band lleol o’r gorffennol atgyfodi ar gyfer y noson, sef Jess, Mattoidz a Johnny Panic.
Noson o hwyl a barddoniaeth fydd ar y nos Fawrth gyda Bragdy’r Beirdd, tra bydd dau o hoelion wyth y sin, Tecwyn Ifan a Steve Eaves yn adlonni ar y nos Fercher.
Bwncath fydd y prif atyniad ar y nos Iau, gyda chefnogaeth gan y ferch leol, Lowri Evans, ac yna ar y nos Wener bydd Pys Melyn a Breichiau Hir yn perfformio.
Bydd yr wythnos yn cloi ar y nos Sadwrn olaf gyda gig sy’n cynnwys Mwsog, Bob Delyn a’r Ebillion a Rhys Dafis.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gigs i gyd nawr ar wefan y Gymdeithas.