Mae Mali Hâf wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
Yn dilyn y cyffro yn ei anthem gwleidyddol ‘Cymru Knockin’, mae Mali yn dychwelyd gyda ‘Gwrach Fach yr Hâf’ – trac dwyieithog sy’n agor y drws i’w byd mewnol hudol.
Mae’r gân yn cyflwyno’r gwrandawyr i ochr chwareus, gwrachol trwy guriadau hypnotaidd, haenau o harmonïau a geiriau sy’n troelli’r dafod!
Yn ei chanol mae’r llafr-gân cadarnhaol: “Gwrach fach iach, wy’n wrach fach yr hâf”.
Fel mantra sy’n cyfrannu at y rythm mae’r ymadrodd yn adlewyrchu’r neges o ryfeddod, yr hawl i gredu yn eich hudoliaeth personol.
I Mali mae ei chaneuon yn aml yn gweithredu fel swynion mae’n medru canu i’w hunan er mwyn adfywio gobaith, dychymyg ac ysgafnwch mewn byd sy’n medru bod yn drwm iawn.
Ac yn hytrach na phorteadu byd peryglus neu bygythiol mae’r wrach fach yma’n cynnig y cyfle i hedfan, i wellhau ac ymuno gyda’r ddaear a chreadigrwydd naturiol.
Mae’n dewis y gair “gwrach” yn bwrpasol iawn er mwyn herio’r hen ystrydebau a chysylltiadau sydd ynghlwm a’r term, sef casineb at ferched a gormes tuag at ryddid creadigol ac hudolus yr unigolyn.