Canwr Yr Anghysur yn rhyddhau sengl unigol

Mae gitarydd a chanwr y band o Lanrwst, Yr Anghysur, wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf.

Hedd Fôn ydy ffryntman enigmatig y band sydd wedi dod i amlygrwydd dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, a dyma’r sengl gyntaf iddo ryddhau’n unigol.

‘Cwm Brwynog’ ydy enw’r trac sy’n ei weith yn cyd-weithio gydag Austin “Tan-rallt” Roberts ac sy’n cael ei ryddhau ar y llwyfannau digidol arfero trwy label Recordiau Rwst.