Osgled yn rhyddhau sengl newydd

Mae prosiect yr artist o Fachynlleth, Bethan Ruth, sef Osgled wedi rhyddhau ei sengl newydd. 

‘Traed Moch’ ydy enw’r sengl gyntaf i’w chymryd o’i EP, ‘Pydru Ymlaen’, a fydd yn cael ei rhyddhau yn ddiweddarach  yr haf hwn drwy label BWGiBWGAN.

Wedi’i gynhyrchu ar y cyd â Louis O’Hara a’i recordio yn Stiwdio CWRW yng Nghaerfyrddin, mae ‘Traed Moch’ yn cyfuno gwerin arbrofol, sain electroneg atmosfferig a lleisiau breuddwydiol i greu profiad gwrando ymdrochol a hynod bersonol.

Ysgrifennwyd y gân fel myfyrdod ar y clawstroffobia a brofodd llawer yn ystod y pandemig, gan ddeillio o gyfnodau hir dan do, wedi’u dal mewn cylchoedd o or feddwl a meddyliau ailadroddus. 

Eto i gyd, yn ei chalon mae ymdeimlad o ryddhad o gamu allan, teimlo golau’r haul ar eich croen ac ailgysylltu â byd natur. Mae’r trac yn dal y tensiwn rhwng caethiwed a rhyddid, llonyddwch a symudiad, gan greu sain sy’n teimlo’n agos atoch ac yn eang ar yr un pryd.

Gan gynnig blas cyntaf hynod ddeniadol o ‘Pydru Ymlaen’, mae ‘Traed Moch’ yn arddangos gallu unigryw Osgled i drawsnewid profiadau personol yn gerddoriaeth atmosfferig gyfoethog.