A hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘O’r Blaen’ ym mis Mai, mae Y Ddelwedd bellach wedi rhyddhau eu EP cyntaf ar label Recordiau SBENSH.
Yn ddi-flewyn ar dafod, dyma EP hunan-deitl Y Ddelwedd. 5 cân sy’n berwi o ddylanwadau blues, roc, pync ac indi, ac yn adlewyrchiad difyr o gymeriadau’r band.
Daeth Y Ddelwedd i amlygrwydd wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst 2025.
Y Ddelwedd
Gan dyfu o wreichion band Yr Ogs, maent yn ffrwyth llafur prosiectau tanllyd Y Gwallgofiaid / CellB, Blaenau Ffestiniog.
Chwech aelod sydd i’r band ac maent i gyd yn dod a’u cyfraniad arbennig i’r botes.
Mae’r canwr 6’4″ Hari Emlyn a’i bresenoldeb bardd-beat yn ychwanegiad croesawgar i’r sîn Cymraeg, a mae’r cyfuniad lleisiol gydag Enlli Jones yn rhoi stamp unigryw ar eu sŵn.
Mae Owen Jones yn athrylith ar y gitâr ac yn ein hatgoffa o arloeswyr fel Stevie Ray Vaughan, tra bod Eban Davies yn gyfosodiad diymhongar sy’n adleisio arddulliau amgenach fel y Velvet Underground.
Yn grud deinameg i’r cwbl mae Isaac Parsons ar y bas byrlymus, a Cian Clinc ar y drymiau egnïol di-baid. Yn wir, mae’r EP safonol hwn yn ychwanegiad ffrwydrol i’r repertoire Cymraeg.
Menyn Dafydd Iwan
“Roedd hi’n fraint cydweithio gydag Ifan Emlyn (Candelas) yn Stiwdio Sain” meddai’r band.
“Llwyddodd i fireinio’r sain a sicrhau bod yr emosiwn a’r bwriad tu ol i bob cân yn cael eu cyfleu mor effeithiol â phosib. Cafwyd llawer o hwyl yno hefyd, a hoffai Hari ymddiheuro i Dafydd Iwan am ddwyn ei fenyn!”
A hwythau’n rhyddhau eu cerddoriaeth gyda Recordiau SBENSH mae gan y band ddigon o brofiad wrth law dan adain rheolwr y label, Gai Toms.
“Gyda diolch i Gronfa Cerddoriaeth PYST, rwyf wir yn gobeithio bod yr EP am fynd a nhw i’r lefel nesa” meddai Gai.
“Mae nhw’n meddu ar dalent unigryw ac wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu’i swn, mae nhw’n haeddu mwy o sylw.”
Dyma ‘Lle Wyt Ti Di Bod?’ o’r EP: