Mae’r prosiect electronig Carcharorion yn ôl gyda gyda sengl ddwbl sy’n ail ddychmygu dau drac cyfarwydd gan artistiaid eraill.
Mae ‘Cawl Llonydd’ allan ers 9 Hydref ar label I KA CHING.
Mae ‘Cawl Llonydd’ gan Carcharorion yn brosiect o ailffurfio caneuon gan Dafydd Owain (‘Cawl’) a Nia Morgan (‘Llonydd’).
Wedi seibiant hir, mae Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard yn eu holau `dan yr enw Carcharorion, ac yn bwrw golwg wahanol ar ganeuon eu ffrindiau a’u hoff artistiaid trwy eu haddasu i draciau dawns dyfn.
Roedd ystyr ddwys y geiriau yn ddylanwad mawr ar y ddau, a rhoddwyd pwyslais ar barchu’r ystyr hwnnw wrth gyfansoddi’r gerddoriaeth, ond gan edrych arnynt drwy eu lens eu hunain.
Dyma ‘Llonydd: