Casgliad i ddathlu blwyddyn o BWGiBWGAN

Mae label BWGiBWGAN wedi cyhoeddi casgliad aml-gyfrannog newydd er mwyn dathlu blwyddyn o fodolaeth. 

Crewyd BWGiBWGAN yn 2025 fel cartref i gerddoriaeth feiddgar, hynod unigryw o Gymru a thu hwnt.

Gyda mwy na 40 o gyhoeddiadau ar y label dros ei flwyddyn gyntaf, mae ‘WE 🖤 TO BWGi / blwyddyn un’ yn dod ag un ar ddeg o artistiaid at ei gilydd sydd wedi helpu i siapio’r byd hwnnw.

Does dim un sain BWGiBWGAN benodol, ond rywsut mae’r cyfan yn ffitio gyda’i gilydd.

Ar draws y casgliad, mae psych-folk, cerddoriaeth electronig, post-rock, country, pop left-field, gitarau swnllyd a phethau hyd yn oed mwy rhyfedd yn eistedd ochr yn ochr heb fod angen eu gorfodi i mewn i un hunaniaeth. Yr hyn sy’n eu cysylltu yw greddf, personoliaeth ac artistiaid yn gwneud cerddoriaeth yn llwyr ar eu telerau eu hunain.

Mae’r un egni hwnnw wedi ymestyn ymhell y tu hwnt i’r recordiau.

Yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2026, ymddangosodd rhan helaeth o roster BWGiBWGAN ar draws yr ŵyl, gyda Tai Haf Heb Drigolyn a MWSOG yn cyflwyno setiau oedd ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl i Walled Garden oedd yn orlawn. 

Roedd yn teimlo fel cipolwg ar gymuned oedd yn tyfu y tu hwnt i fydoedd unigol pob artist, gyda chynulleidfaoedd gwahanol a syniadau cerddorol yn dechrau gorgyffwrdd yn yr un lle. Mae hynny wedi bod yn rhan o’r syniad y tu ôl i BWGiBWGAN erioed: creu rhywbeth mwy na’r cylchoedd ar wahân o gwmpas pob ‘release’, a rhoi rheswm i’r hartistiaid a’u cynulleidfaoedd ddod o hyd i’w gilydd.

Recordiodd Tai Haf Heb Drigolyn hefyd sesiwn fyw fythgofiadwy i Marc Riley a Gideon Coe ar BBC Radio 6 Music, tra bod caneuon ar draws y roster wedi denu cefnogaeth gan 6 Music, KEXP, BBC Introducing a’r wasg annibynnol.

Roedd blwyddyn gyntaf y label hefyd yn cynnwys rhyddhau BWGi Wonderland ’25, ei gasgliad Nadolig cyntaf, oedd yn dod â thraciau unigryw, remixes a recordiadau byw at ei gilydd o amgylch parti label cyntaf BWGiBWGAN yng Nghaerdydd. Mae’r ddau yn dychwelyd fis Rhagfyr hwn.

Nid casgliad greatest hits yw ‘WE 🖤 TO BWGi / blwyddyn un’, nac ychwaith ymgais i dacluso’r flwyddyn gyntaf yn stori daclus. Mae’n gipolwg ar label sy’n dal i ddarganfod e’i hun. Un ar ddeg o artistiaid. Un ar ddeg o fydoedd gwahanol.

 

Rhestr draciau ‘WE 🖤 TO BWGi / blwyddyn un’: 

  1. MWSOG – Llef Hir
  2. Limited Ltd – Limited
  3. Why Horses? – Conversation
  4. Slinky Malinky – Venus
  5. Serafima & The Shakedowns – I’ll Be Around
  6. menig – carpet
  7. Tai Haf Heb Drigolyn – Once I Was an Eel
  8. Osgled – Traed Moch
  9. Internet Fatigue – if i could
  10. Looney Bergonzi – Year 6 Disco
  11. Spirited Followers – Returning

Dyma ‘Llef Hir’, sef y trac Mwsog sydd ar y casgliad:

Gadael Ymateb