Gŵyl Sain yn dychwelyd

Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl y llynedd, mae Sain wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl Sain yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 31 Hydref, gyda’r tocynnau ar gael nawr. 

Bydd yr ŵyl yn dathlu taith Sain ar hyd y degawdau – o drysorau’r archif a chatalog Recordiau Sain i artistiaid newydd fu’n rhan o weithdai creadigol Cadw Sŵn Beacons Cymru a Sain69 yn ddiweddar. Fel rhan o’r dathliadau, bydd lansiad wal cloriau Sain yn nhafarn Ty’n Llan, Llandwrog.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar y cyd gyda Menter Ty’n Llan eto eleni ynghyd â Beacons Cymru ac Awni, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Bydd modd ymuno am ddiwrnod o gerddoriaeth byw a sgyrsiau difyr wrth ddathlu taith Sain ac edrych ymlaen at y bennod nesaf. 

 “Mae’n grêt gweld Gŵyl Sain yn ôl am ei hail rifyn eleni” meddai Kev Tame, Prif Weithredwr Sain. 

“Mae’n gyfle gwych i ddathlu artistiaid Sain dros y blynyddoedd, ond hefyd i estyn llaw, agor drysau Canolfan Sain a chreu cyfleoedd ar gyfer cydweithrediadau newydd. 

“Rydym ni’n falch iawn o gydweithio eleni gyda Beacons Cymru, gwefan ac ap Awni a Menter Ty’n Llan, ac yn ddiolchgar iawn hefyd am gefnogaeth Cymru Greadigol.

“Bydd ’na sgyrsiau difyr a pherfformiadau arbennig yng Nghanolfan Sain yn ystod y dydd, ac yna gig yn Ty’n Llan gyda’r nos wedi’i gyd-guradu gan Beacons a Sain69, felly mae ’na rywbeth at ddant pawb.”

Bydd gweithgareddau yng Nghanolfan Sain rhwng 14:00 a 17:00 yn y prynhawn yn cynnwys cyfle i edrych yn ôl ac i ddathlu a gwerthfawrogi cyfnod cynhyrchiol y 70au mewn dwy sgwrs arbennig. 

Bydd y cynhyrchydd Dyl Mei yn sgwrsio gyda Cleif Harpwood, Delwyn Siôn a Meinir Gwilym am rai o recordiau eiconig blwyddyn euraidd 1976, ac yna bydd Gwenan Gibbard yn sgwrsio gyda Catrin Edwards, Ann Hopcyn a Dafydd Iwan am ganeuon, am gyfansoddi rai o ‘hits’ y 70au ac am rôl merched yn arbennig ar y sin yn y cyfnod. 

Bydd ambell berfformiad hefyd cyn diwedd y prynhawn.

Yna, yn nhafarn gymunedol Ty’n Llan o 18:00 ymlaen bydd Sain69, sef chwaer label Sain, a Beacons Cymru yn cyflwyno noson o gerddoriaeth byw gan Meinir Gwilym, Martha Elen ac Alis Glyn, ynghyd ȃ lansiad wal cloriau Sain.

Mae tocynnau ar werth nawr trwy wefan ac app Awni

Tocynnau

£15 Tocyn Trwy’r Dydd (Canolfan Sain + Ty’n Llan)

£10 Tocyn Gig yn Unig (Ty’n Llan)

 

Gadael Ymateb