Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau blas pellach o’i halbwm newydd, ‘Uncanny Valley’, a fydd yn cael ei ryddhau fis Tachwedd.
‘Someone Else’s Roses’ a ‘The Sopranos’ ydy enw’r sengl ddwbl ddiweddaraf ganddi sy’n cynnig awgrym pellach o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar yr albwm, gan ddilyn y sengl ddwbl ‘Suddenly Suburbia’ a ‘Dal ‘Ma Alma’ a ryddhawyd ddiwedd mis Medi.
‘Uncanny Valley’ fydd pumed albwm Georgia Ruth – record lle mae un o gyfansoddwyr mwyaf unigryw Cymru yn archwilio swbwrbia, bywyd domestig a’r gofod anesmwyth rhwng cysur ac ansefydlogrwydd.
“Byw mewn amgueddfa o fywyd dieithryn: dyna beth yw hanfod hon” eglura Georgia Ruth am y gan ‘Someone Else’s Roses.
“Symud i mewn i dŷ, a chael eich hun wedi eich amgylchynu gan eu pethau nhw. Eu carpedi, eu clustogau, eu blodau.
“Roeddwn i wrth fy modd yn ysgrifennu hon, ac wedi mwynhau ei chanu hyd yn oed yn fwy. Eto, roeddwn i am iddi gael naws oesol. Dyma fy nheyrnged fach i Willie Nelson – ac i’r syniad gwych hwnnw mewn cerddoriaeth gwlad o ddweud cymaint â phosibl ond yn y ffordd symlaf, fwyaf uniongyrchol.”
“Mae synths Gruff yn dod ag ychydig o ryfeddod i’r holl beth. Cefais fy nylanwadu gan drac offerynnol gan Leonard Cohen o’r enw ‘Tacoma Trailer’ sy’n ymddangos ar The Future (1992).”
Datgela Georgia bod yr ail drac, ‘The Sopranos’, fel mae’r enw’n awgrymu, wedi’i ddylanwadu arno gan y gyfres deledu Americanaidd enwog, er ei bod yn hwyr i’r parti pan ddaeth at wylio’r gyfres.
“Treuliais i hanner fy mywyd yn osgoi The Sopranos. Efallai oherwydd bod pawb i weld mor benderfynol o ddweud wrthyf pa mor wych ydoedd” eglura.
“Ac felly, am dros ugain mlynedd, wnes i erioed ei wylio. Tan i mi fod yn feichiog gyda fy nhrydydd plentyn, a chawsom ein hunain yn gwylio pob cyfres o’r dechrau i’r diwedd, mewn un rhediad trawmatig a chwalodd fy mhen.
“Nid yn unig yr oedd cystal ag yr oedd pawb wedi dweud y byddai, ond cefais fy hun yn uniaethu â Tony Soprano mewn ffordd a oedd yn syndod mawr o mi.
“Ysgrifennais y gân hon gan geisio gwneud synnwyr o hynny. Mae’n deyrnged i’r dilyniannau breuddwydion a fyddai bob amser yn ymddangos mewn sioeau teledu ar y pryd – fel y ‘babanod sy’n dawnsio’ yn Ally McBeal.
“Rwy’n gweld eisiau cael swrealaeth yn chwarae allan mor achlysurol ar y cyfryngau prif ffrwd. Roedd mor ddi-barch a rhyfedd.”
Cynhyrchwyd yr albwm unwaith eto gan Iwan Morgan ac fe’i recordiwyd yn Stiwdio Sain gyda cherddorion yn cynnwys Gruff ab Arwel a Gavin Fitzjohn. Fe’i cymysgwyd gan TJ Allen (Bat For Lashes, Portishead, Anna Calvi). Mae plant Georgia, sef Owen, Idris ac Alma hefyd yn ymddangos ar y record.
Bydd ‘Uncanny Valley’ yn cael ei ryddhau ar 13 Tachwedd.