Wrth i is-etholiad Clacton ar gyfer Senedd San Steffan agosáu, mae Ffos Goch wedi ail-ryddhau sengl sydd â theitl perthnasol iawn, fel dathliad o ddemocratiaeth.
Mae’r is-etholiad yn cael sylw eang gan y cyfryngau oherwydd y frwydr rhwng arweinydd plaid Reform, Nigel Farage ar y naill law, a’r cymeriad dychanol Count Binface sef yr amlycaf o’r 34 o ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholaeth.
Rhyddhaodd Ffos Goch, sef prosiect diweddaraf y cerddor profiadol Stuart Estell, ‘Noson y Biniau Byw’ yn wreiddiol fel sengl ym Mawrth 2025. Roedd yn teimlo ei bod yn briodol i ail-ryddhau’r sengl nawr i gyd-fynd â’r is-etholiad fydd yn digwydd ar 13 Awst.
Roedd y fersiwn wreiddiol o’r trac yn gân arddull ‘house’ ac yn ffrwyth cyd-weithio rhwng Estell a Pat Morgan o’r band Datblygu.
“Gan fod y bins – a sbwriel – ym mhobman yr haf yma, yn enwedig yn Clacton-on-Sea yn Lloegr, dyma fi’n ailgylchu’r gân Noson y Biniau Byw er mwyn gwneud pwynt anuniongyrchol am ogoniant democratiaeth a phwysigrwydd ailgylchu” eglura Stuart.
“Y tro yma, mae Pat Morgan wedi cael ei disodli gan drafodaeth hileriýs dros nodiadau llafar, Saesneg eu hiaith, rhwng fy ffrindiau Nadine Borstal a Paige Thomas ar ein group chat ni.
“Mae’r ddwy ohonyn nhw eisoes wedi cyfrannu at draciau Ffos Goch – darllenodd Nadine darn cyntaf y sengl Aberbargoed y llynedd, ac fe wnaeth Paige gyfrannu at y trac 5’4″ Ynfytyn Showcase ar Byd Sbwriel. Gobeithio wnewch chi enjoio eu perfformiad gymaint â minnau.”