Cowbois Rhos Botwnnog yn codi arian i ryddhau albwm gyda’r gerddorfa

Yn dilyn eu cyngerdd diweddar gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi dechrau ymgyrch i godi arian tuag at gostau cynhyrchu albwm o recordiad y gig cofiadwy. 

Darlledwyd y cyngerdd ar BBC Radio Cymru, fel dathliad o ganeuon Cowbois Rhos Botwnnog wrth i’r band nodi 20 mlynedd ers ffurfio. 

Ers hynny mae’r aelodau, sef y tri brawd Iwan Huws, Dafydd Hughes ac Aled Hughes, wedi siarad am ba mor arbennig oedd y noson ac y byddai’n byw’n hir yn y cof. 

Mae’n debyg mai nid nhw oedd yr unig rai i deimlo hynny a bod llawer o bobl wedi bod yn cysylltu i holi a fyddai’r recordiad yn cael ei ryddhau fel albwm. 

Reit ta… dipyn wedi holi os bydd albwm o’r cyngerdd efo BBC National Orchestra of Wales ar gyfer BBC Radio Cymru ar gael” meddai’r band ar eu cyfryngau cymdeithasol.  

“Mae’r peth yn bosib, ond mae ’na gostau sylweddol ynghlwm a’r peth… felly dyma benderfynu trio ‘Crowdfundio’ i’r peth ddigwydd!

“Mi oedd hi’n noson arbennig iawn i ni, ac un nad oedden ni’n siŵr fysa fyth yn digwydd ar un pwynt gan i’r dyddiad gwreiddiol gael ei ohurio am resymau digon anffodus.”

Mae’r band yn gofyn i bobl gyfrannu faint bynnag o arian maen nhw’n gallu, ond yn dweud y bydd unrhyw un sy’n talu £40 yn cael copi o’r record feinyl wedi’i lofnodi gan aelodau’r band. Bydd unrhyw un sy’n cyfrannu’r swm hwnnw hefyd yn cael eu henw ar ‘credits’ y record. 

Bydd unrhyw un sy’n cyfrannu £25 hefyd yn cael copi o’r record feinyl. 

“Os dalwch chi geiniog, mi fyddwni’n ddiolchgar, ac os gyfrannwch chi ddim byd o gwbwl, fyddwni ddim dicach” ychwanega’r band. 

Mae modd cyfranu at yr ymgyrch ar-lein nawr.

Dyma ‘Ceffylau ar D’rannau’ yn fyw o’r cyngerdd:

Gadael Ymateb