Mae Moddion, sef prosiect diweddaraf y cerddor profiadol Gruff Pritchard, wedi rhyddhau EP newydd sy’n gasgliad cartrefol a mewnblyg am yr eiliadau bach sy’n ffurfio bywyd bob dydd.
‘Weithiau’ ydy enw’r casgliad byr newydd gan y cerddor sy’n gyfarwydd fel aelod o fandiau Yr Ods a Carcharorion.
Daw’r EP diweddaraf yn ddilyniant i’r EP ‘Golau Cyfarwydd’ a ryddhawyd yn 2023 a’r sengl ‘Llonydd’ a ryddhawyd yn 2025.
Recordiwyd yr EP gartref yn gynnar yn 2026, ac mae ‘Weithiau’ yn gofnod o’r cyfnod hwnnw yn ôl y cerddor – dyddiau sy’n gwibio, partïon pen-blwydd a phrosiectau DIY sy’n mynd o chwith.
Wrth wraidd y casgliad mae awgrym fod gwahanol ffurfiau o bob person sy’n ymweld â nhw ar adegau annisgwyl, weithiau’n gyfeillgar, weithiau ag ofn.
Mae diffygion a phrysurdeb dydd i ddydd hefyd yn thema ganolog. Yn hytrach na’u cuddio, mae ‘Weithiau’ yn rhoi lle iddyn nhw, gan ddod o hyd i dynerwch ac ychydig o hiwmor.
Yn rhedeg ochr yn ochr â hyn mae presenoldeb technoleg. Cof digidol sy’n diflannu, dyfeisiau ar fin methu, ac anesmwythdod am ofynion systemau gor-gyfeillgar.
Wedi’i recordio mewn gofod agos a phersonol, mae ‘Weithiau’ yn bortread o amser yn llithro, ac o’r ymdrech o ddathlu rhywbeth cyn iddo ddiflannu. Casgliad tawel ond treiddgar, sy’n ceisio dod o hyd i ystyr yn y pethau lleiaf.
Dyma’r teitl drac: