Mae Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi manylion llawn yr artistiaid sy’n perfformio yn y digwyddiad eleni.
Cynhelir Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ar benwythnos 20 a 21 Mehefin eleni wrth i’r ŵyl ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.
Y prif enwau ar y poster ydy Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog ond bydd enwau amlwg fel HMS Morris, Taran, Sage Todz a Martha Elen yn ymuno â hwy ar arlwy’r llwyfan perfformio. Bydd Bob Delyn a’r Ebillion hefyd yn perfformio ynghyd ȃ’r band roc o Gaerdydd, Breichiau Hir.
Ymysg yr enwau eraill sy’n perfformio mae Ani Glass, Buddug, Cyn Cwsg, Carwyn Ellis & Rio 18, Gwilym a llawer mwy.
Does dim manylion am yr union amserlenni llwyfan eto, ond bydd rhain yn ymddangos ar wefan Tafwyl yn nes i’r amser.