Mae’r ddeuawd gwerin-pop o Ogledd Cymru, Igloo Hearts wedi rhyddhau sengl newydd sy’n fersiwn newydd o drac cyfarwydd iawn.
‘Dros Foroedd Gwyllt‘ gan Celt ydy’r trac dan sylw, a bydd y fersiwn newydd fan Igloo Hearts allan ar 15 Gorffennaf.
Mae’r fersiwn newydd gan ddeuawd folk-pop yn ailgread atmosfferig o’r glasur gan Celt, gan ddilyn ymddangosiad Igloo Hearts ar gyfres deledu Y Llais.
Gyda’u cyfuniad o biano, gitâr a llais dwbl sy’n uno’n naturiol, mae Igloo Hearts yn dod â thôn newydd i’r gân, gan dynnu ar eu sain sinematig a’u perfformiadau emosiynol.
Mae Katie – pianydd glasurol a ymddangosodd ar The Piano, a James, cyn artist unigol, wedi bod yn adeiladu momentwm ar draws y sin gerddoriaeth Gymreig a’r DU, gyda chefnogaeth gan BBC Introducing, Focus Wales a nifer o berfformiadau byw amlwg.
Dymar trac: