Mae’r band ifanc o’r Brifddinas, Curiad, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf.
‘Bore’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label JigCal.
Ffurfwyd Curiad yn mis Mai eleni drwy’r prosiect ‘Yn Cyflwyno Tafwyl 2026’. Perfformiodd y grŵp yn eu gig cyntaf erioed mewn digwyddiad a werthwyd allan yn Clwb Ifor Bach, cyn ymddangos o flaen canoedd yng Ngŵyl Tafwyl 2026.
Mae’r pedwarawd o Gaerdydd yn cynnwys yr aelodau Poppy sy’n canu, Efa ar yr allweddellau, Dan ar y gitâr a Steffan ar y drymiau.
Yn syth ar ôl gorffen eu diwrnod olaf o arholiadau TGAU aeth y band i Stiwdio JigCal i recordio ‘Bore’ gyda Mei Gwynedd.
Mae eu sain yn cyfuno melodïau pop ffres a chynhyrchiad modern gan greu arddull gyfoes sy’n apelio at gynulleidfa newydd. Roedd gweld pobl ifanc yn canu cytgan ‘Bore’ wrth adael maes Tafwyl, er mai unwaith yn unig yr oeddent wedi clywed y gân, yn dyst i ddawn y band am gyfansoddi caneuon bachog sy’n aros yn y cof.
Wedi iddynt serennu ar ddau lwyfan adnabyddus yng Nghymru mor gynnar yn eu gyrfa, mae’n amlwg mai dim ond megis dechrau mae taith Curiad.