Mae’r band o’r Gorllewin, Bwca, wedi rhyddhau EP newydd .
Casgliad o ganeuon gwerin o’r enw ‘Ffarwel i Aberystwyth’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan ar Recordiau Hambon yn arbennig ar gyfer croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal.
Dyma’r tro cyntaf i’r band fentro i’r byd gwerinol ers cychwyn Bwca yn 2017 ac fe fydd y casgliad a gafodd ei recordio yn stiwdio’r Americanwr Mike West yn Y Borth yn cael ei lansio mewn gig arbennig yn y Tŷ Gwerin yn Eisteddfod y Garreg Las ar nos Lun Awst 3ydd am 6.15yh.
“Mae diddordeb wedi bod ‘da fi wneud rhywbeth gwerinol ers blynydde felly pan ddaeth y gwahoddiad i Bwca chwarae yn y Tŷ Gwerin wedes i wrth y band fod rhaid gwneud rhywbeth arbennig a recordio casgliad o ganeuon gwerin ond yn ein ffordd ni” meddai Steff Rees, prif leisydd a gitarydd y band.
Ceir pump o ganeuon gwerin traddodiadol ar yr EP gyda’r rheiny yn cael eu trawsnewid mewn ffyrdd newydd, cyffrous tra hefyd yn gwneud hyn mewn modd sensitif a pharchus i’r alawon eu hunain.
Mae’r EP yn cychwyn gyda fersiwn roc anthemig o ‘Tra Bo Dau’ sy’n llawn harmonïau, drymiau a gitârs fyddai ddim ar goll ar albwm 1978 gan Queen tra’n rhoi pinsaid o halen gwerin gyda sain y mandolin – offeryn gwaneth Steff ddysgu ei chwarae ar gyfer y casgliad yma.
‘Dacw ‘Nghariad’ yw ail drac y casgliad a dyma gân reggae cyntaf Bwca. Dros y blynyddoedd mae’r band wedi datblygu catalog sydd wedi profi’n boblogaidd gan gynulleidfaoedd ledled Cymru am fod yn llawn amrywiaeth ac fe fydd yr un yma sy’n cynnwys eu sain sacsoffon unigryw yn ffefryn heb os.
Mae Hannah McCarthy yn rhoi ei sacsoffon lawr ar gyfer cân rhif tri gan gymryd rôl y prif leisydd ar gyfer fersiwn canu gwlad bert iawn o’r glasur ‘Y Gwydr Glas’. Dyma hefyd y tro cyntaf i Hannah fod yn brif leisydd ar un o recordiau’r band felly mae’r record yn gwthio eu hunain fel cerddorion ac yn herio unrhyw rhagdybiaethau ohonynt fel band.
‘Marwnad yr Ehedydd’ yw’r pedwerydd trac ac yma mae sgiliau drymio Iwan Hughes yn cael eu arddangos unwaith eto gyda llinellau bas grwfi Pete Evans yn cyfuno gyda gwaith gitâr Steff Rees i greu fersiwn syrff llawn egni i aildanio’r EP hyd at y diwedd.
Ac yn cloi’r EP mae’r teitl drac ‘Ffarwel i Aberystwyth’ sydd yn rhoi diweddglo roc gwerinol tywyll a thrwm gan ddwyn ysbrydoliaeth o ganeuon protest y band fel ‘Pawb di Mynd i Gaerdydd’ i greu cân all fod unwaith eto yn trin allfudo pobl ifanc o’r gorllewin i’r dinasoedd.