Cyhoeddi arlwy Gŵyl y Castell

Mae un o wyliau cerddorol olaf yr haf, sef Gŵyl y Castell yn Aberystwyth, wedi cyhoeddi manylion arlwy’r digwyddiad eleni.

Fel mae’r enw’n awgrymu, cynhelir Gŵyl y Castell yng Nghastell Aberystwyth ar 12 Medi gyda gweithgareddau a cherddoriaeth rhwng 10 y bore a 9 yr hwyr.

Eleni, bydd prif lwyfan yr ŵyl yn croesawu Cowbois Rhos Botwnnog, Al Lewis a’r Band, 50 Shêds o Lleucu Llwyd a Bwca. Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Gadael Ymateb