Rhyddhau EP cyntaf Pwrs 

Mae’r band o Aberteifi, Pwrs wedi rhyddhau eu EP newydd ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r ardal.  

‘Cylch yn Gron’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan ar label Fflach Cymunedol. Prosiect y ddau frawd Johnny a Gareth Thomas ydy Pwrs.  

Mae eu cerddoriaeth yn cyffwrdd â’r galon gyda’u halawon stadiwm hiraethus, llawn ‘reverb’,  sy’n myfyrio ar gyfeillgarwch ar ôl colled a phŵer gweld y gwydr yn hanner llawn. 

Rhywle yn eich isymwybod, mae caneuon hiraethus, pwerus ac emosiynol Jonny Thomas wedi  bodoli erioed. Gyda sain a stori sy’n teimlo’n gyfarwydd, mae EP cyntaf Pwrs, ‘Cylch yn Gron’,  yn dwyn i gof nosweithiau llawen gyda’ch brodyr, gwyliau diwedd yr haf a chanu ar strydoedd  gwlyb wedi’r glaw.  

Gyda’r ddau frawd y gyrru’r band, mae eu hymgyfeiriadau hyderus at eu hoff fandiau o’r  1990au a dechrau’r 2000au, ynghyd â’u brwdfrydedd heintus am fywyd, yn gwneud eu caneuon  yn gofiadwy ac yn ysgogol. 

Mae ‘Cylch yn Gron’ yn cynnwys pedair cân ddiffuant. Mae’r teitl drac yn gân sy’n ymwneud â  thrasiedi bersonol ond sy’n cael ei chyflwyno gyda chariad yn hytrach na chwerwder, ac sy’n  llawn sain ‘reverb’.  

Daw ‘Drws ar Gau’ nesaf, gyda Jonny Thomas yn canu’n ddiffuant unwaith eto. Mae ‘Yn Y Nos’ yn newid naws, ac mae’r EP yn gorffen yn rymus gyda’r trac ‘Craith’.

Mae’r record wedi cymryd amser hir i gyrraedd. O fandiau ysgol cynnar i berfformiadau unigol,  mae Jonny wastad wedi creu cerddoriaeth. Ond gyda threigl amser daw profiad, ac mae’r  caneuon aeddfed hyn – sy’n llawn straeon bywyd ac athroniaeth llawr gwlad, ynghyd â sain  gitâr rymus – yn gwneud y pedair cân grefftus hyn yn werth yr aros. 

Dyma ‘Craith’: