Cyhoeddi artistiaid Maes B

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid fydd yn perfformio ar lwyfan Maes  pan fydd y Brifwyl yn ymweld a Llantood ger Aberteifi ym mis Awst eleni. 

Ymhlith rhai o brif artistiaid Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las mae Eden, Bwncath, Pys Melyn, Breichiau Hir a mwy. 

Cynhelir Maes B rhwng 4–8 Awst fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn dilyn llwyddiant datblygiadau newydd ym Maes B Wrecsam 2025 dywed y trefnwyr eu bod yn falch o gyhoeddi’r cip cyntaf ar arlwy eleni, gyda mwy o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys llwyfannau a phrofiadau newydd. 

Yn ogystal ag enwau mawr fel Candelas, sy’n paratoi i ryddhau albwm newydd, ac Eden, fydd yn gwneud un o’i unig berfformiadau eleni ym Maes B, bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu nifer o artistiaid sy’n ymddangos yno am y tro cyntaf. 

Ymhlith y rhain mae Lafant, Martha Elen, Betsan, Yr Hunanol, Tokomololo a mwy. 

Ar ôl i’r don gyntaf o docynnau bargen gynnar werthu bron yn syth, mae tocynnau cyfnod yn prysur ddiflannu. 

Mae manylion prisiau llawn ar gael ar wefan Maes B, gyda thocynnau ar gyfer nosweithiau a gigs unigol i’w cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yr ŵyl dros yr wythnosau nesaf.

 

Gadael Ymateb