Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau’r sengl ddiweddaraf o’i gasgliad newydd o ganeuon.
‘Ail Chwyldro’ ydy enw’r bedwaredd sengl ganddo o’i albwm newydd.
Aeth hanner canrif a mwy heibio ers brwydr fawr yr iaith a bu 1973 yn flwyddyn arwyddocaol yn hanes Cleif Harpwood.
Roedd yr ymgyrch arwyddion ffyrdd a’r frwydr dros sianel Gymraeg yn eu hanterth, Adfer yn galw am warchod cadarnleoedd y gorllewin, a phentref Derwen Gam dan forthwyl yr ocsiwnîr. Gwelwyd arwyddion cynnar o’r mewnlifiad estron, sydd erbyn hyn yn boddi’n cymunedau ac yn peryglu dyfodol y Gymraeg.
Dyma’r flwyddyn hefyd y sefydlwyd Edward H Dafis ac mae’r negeseuon yn eu caneuon yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw hanner canrif yn ôl.
Mae ‘Ail Chwyldro’ wedi ei seilio ar un o sloganau cynnar Cymdeithas yr iaith Gymraeg, “Mae’n rhaid i bethau newid er mwyn i’r iaith gael byw” ac mae Cleif yn cwestiynu – er deddfwriaeth a’r cynnydd yn narpariaeth addysg Gymraeg, a ydym yn llawer rhy hunanfodlon ynglŷn â sefyllfa’r iaith? A oes angen ail chwyldro?
Recordiwyd ‘Ail Chwyldro’ yn Stiwdio Fflach Aberteifi ym mis Mawrth 2024 ac yn StiwdioOwz, Clarbeston, Sir Benfro yn ystod Gorffennaf a Hydref 2025 ac mae allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol.