‘Miwsli’ ydy enw’r EP newydd gan Mali Hâf sy’n gasgliad mewnsyllgar i’w fwynhau gyda phowlen o gerddoriaeth pop hwyliog a hudolus!
Daw’r casgliad byr ar ôl iddi ryddhau’r sengl ‘Muse’ ym mis Chwefror, oedd yn flas o’r hyn i ddod.
Mae ‘Miwsli’ yn nodi agoriad y drws i fyd Mali Hâf. Yn union fel y grawnfwyd, mae Miwsli yn llawn bwyd iach i’r meddwl – yn ffrwythus, yn llawn gweadau, ac yn cynnwys amrywiaeth o flasau a synau. Mae pob trac yn dod a chynhwysion gwahanol i’r bowlen, gan gyfuno pop chwareus gyda myfyrdodau dyfnach ar fywyd.
Ysgrifennwyd y caneuon mewn cyfnod o hunan-archwilio i Mali, ac mae pob un yn dal cipolwg ar ei meddyliau, ei theimladau a’i harsylwadau.
Maent yn ddiamheuol yn ganeuon trwy lens Mali Hâf – yn od, yn chwilfrydig ac yn onest.
Gyda Miwsli, mae Mali yn paentio byd sy’n teimlo’n hudolus ac wedi ei wneud â llaw.
Mae’n DIY, yn chwareus ac yn llawn meddwl – fel camu i fwthyn gwrach Gymreig sy’n arbrofi gyda swynion, yn gwnïo ei dillad ei hun, ac yn troi meddyliau bob dydd yn rhywbeth llawn swyn.
Mae sgwrs bellach gyda Mali Hâf am ei EP newydd, a’i chynlluniau eraill ar gyfer 2026, yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.
Dyma’r trac ‘Felly Be?’: