Mae’r gantores-gyfansoddwraig a’r artist gweledol Lleucu Non yn dychwelyd gyda’i sengl newydd ‘Pili Pala’, sengl bersonol ond chwareus sy’n archwilio galar, atgofion a’r teimlad rhyfedd o weld y byd yn dod yn ôl yn fyw ar ôl colli rhywun agos.
Cafodd y gân ei hysgrifennu a’i recordio yn ei hystafell fyw ym mis Mai, yn ystod y gwanwyn cyntaf ar ôl colli ei Nain dros y gaeaf.
Wrth i fyd natur ddeffro a blodeuo, roedd Lleucu’n teimlo fel petai hi’n rhywle rhwng breuddwyd a realiti, gan freuddwydio dro ar ôl tro am ei Nain mewn ystafelloedd llawn pobl, strydoedd prysur ac yng nghanol byd natur.
Wrth fynd am dro adref yng Ngogledd Cymru, dechreuodd sylwi ar bili-palod ym mhobman, a’u cysylltu’n raddol ag atgofion am ei Nain.
“O’n i’n teimlo bo fi mewn breuddwyd, a’r llinell rhwng cysgu a deffro yn niwlog” meddai Lleucu.
“Oedd o’n teimlo’n od gweld y gwanwyn yn ffrwydro gyda bywyd hebddi hi. Dechreuais sylwi ar yr holl bili-palod pan o’n i’n mynd am dro, a dechrau eu cysylltu nhw hefo hi.”
Mae’r trac yn cyfleu naws niwlog a dryslyd breuddwydion, gan gadw’r cymeriad cartrefol a phersonol.
Llion Robertson sydd wedi cymysgu’r trac, gan ychwanegu mwy o egni a phwyslais i’r cynhyrchiad heb golli cymeriad personol recordiad gwreiddiol Lleucu.
“Er bod y gân wedi dod o gyfnod o alar, o’n i eisiau cael hwyl yn arbrofi gyda’r sain yn hytrach na chreu cân drist.”
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ac erbyn hyn wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae Lleucu Non yn creu cerddoriaeth Gymraeg sy’n cyfuno cyfansoddi personol ac arbrofi lo-fi a gweadau pop breuddwydiol.