Cyhoeddi fideo Achlysurol 

Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Pan mae’r Haul yn Machlud’ gan Achlysurol ydy’r diweddaraf  i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.

Mae canwr Y Reu a Kim Hon, Iwan Fôn, yn  ymuno gyda’r band o’r Felinheli ar gyfer y trac yma, ac mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan  Owain Jones.

Dyma’r pedwerydd fideo cerddoriaeth cyfoes newydd mewn cyfres o 10 sy’n cael  eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.  

Gadael Ymateb