Sengl newydd Mattoidz, ac addewid am albwm

Wrth i’r Eisteddfod ymweld â’u hardal leol, mae’r band Mattoidz yn ôl gyda sengl newydd ac  addewid o albwm ar y ffordd.  

‘Mish Mash Mosh’ yw’r sengl gyntaf gan Mattoidz ers ‘Blodeuo’ yn 2024 – a thamed i aros pryd  oedd hwnnw ers y tro diwethaf iddyn nhw ryddhau albwm (Tri) yn 2013.  

Mae’r sengl diweddaraf yn gweld y pop-punkers yn dychwelyd i’w gwreiddiau. Gyda’r egni sydd  mor nodweddiadol o ganeuon y band, hiwmor ffraeth, riffs cyhyrog a chytgan gofiadwy (“lan,  lawr, lan, lawr, ti ffaelu rhoi e lawr”) mae’r sengl gyntaf hir-ddisgwyliedig o’u halbwm hyd-yn oed-yn-fwy-hir-ddisgwyliedig yn atogffa’r sîn bod hwyl i gael gyda’r ‘Toidz ar eu gorau. 

Fel nifer o ganeuon mwyaf tafod yn y boch y band, cerbyd ego y basydd Gareth Delve yw ‘Mish  Mash Mosh’. Ble byddai band callach wedi arafu a myfyrio ar dyfu’n hŷn mae ‘Mish Mash Mosh’ yn cau llygaid a rhedeg. 

“O ni mas yn cerdded y cî pan ddath geirie agoriadol y gân i fy mhen “Ti’n meddwl bod e’n ffyni,  bo fi ffili rhoi e fyny”, a dyna’r sylfaen i greu cân anksty am bod yn gaeth i bethau, yn bennaf  smart phones (‘ffili rhoi e lawr’)” eglura Gareth Delve am y sengl newydd. 

“Fel arfer, ti ishe rhoi bach o amser a cariad mewn i gân, ond dim hwn, Bish Bash Bosh, job  done. Peidiwch edrych yn rhy ddwfn achos sdim lot o sense iddo, ond dyna beth dwi’n lico  amdano.  

“Weithie, ar ôl beni whare cân am y tro cynta, ti jyst ishe chwerthin, a na beth ddigwyddodd da  ‘Mish Mash Mosh’, rho fe yn yr un cwch a “sos coch” a “Rhywbeth o’i le (powns!). Mae ‘Mish  Mash Mosh’ yn bendant yn syrthio mewn i categori ‘Hanner Dwl’ y band.”

‘local heroes’

Mae’r sengl newydd allan ar label Fflach Cymunedol, ac mae rheolwr y label, Nico Dafydd yn  cofio’r band pan oedden nhw ar eu prysuraf.  

“Mattoidz oedd y band i ni’n tyfu fyny” meddai Nico. 

“Nhw oedd y local heroes. Gafon nhw ddylanwad enfawr ar gerddoriaeth yr ardal am ddegawd,  ac mae’n anrhydedd felly i fod yn rhyddhau eu cerddoriaeth ddiweddaraf i genhedlaeth  chwantus newydd.” 

Ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o’r sîn mae Mattoidz yn ôl yn recordio, yn gigio, ac yn rhyddhau  cerddoriaeth newydd. Fe gipiodd y grŵp wobr ‘Band Gorau Gwbrau RAP’ yn 2006 ar ôl  rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Edrych Yn Well O Bell’ y flwyddyn flaenorol ar y label RASP (is label Fflach). 

Mae’r band yn fwyaf cyfarwydd am gyfuno caneuon ffraeth, egnïol am cold callers (‘Dyn  Telesales’), ail gartrefi (‘Dwi Ishe Prynu Tŷ yn Tydrath’) a sos coch (‘Sos Coch’) gyda baledi roc  mwy swynol fel ‘Anodd Gadael’ a ‘Tan y Tro Nesa’, a phob math o anthemau trwm yn y canol.  

Mae eu perfformiadau byw hefyd yn gofiadwy gydag egni’r ddau frontman Delve a Hefin  Thomas heb bylu dim gyda’r amser maith, a chwarae nodweddiadol Rhys James ar y gitar, ei  bedalau’n gweithio overtime a Steve Owen ar y drymiau. 

Rhyddhaodd Mattoidz dair record gyda Fflach trwy’r is-label RASP: y sengl ‘Dyn Telesales’, yr EP  ‘Tan y Tro Nesa’, a’r albwm ‘Edrych Yn Well O Bell’.  

Ar ôl rhyddhau’n annibynnol ers 2007 daeth y ‘Toidz yn ôl at Fflach yn 2024 i ryddhau eu sengl  gyntaf ers degawd. Nawr yn gweithredu fel Fflach Cymunedol mae’r label yn teimlo fel y cartref  perffaith i fand oedd mor ddylanwadol yng nghyfnod euraidd indie’r De Orllewin. 

Roedd Mattoidz yn chwarae gig arbennig yn dathlu bandiau’r De Orllewin o’r 90au a’r 00au yng  Nglwb Rygbi Crymych ar 1 Awst, gyda Jess a Jonny Panic.  

Bydd cyfres o senglau i ddilyn cyn rhyddhau eu pedwerydd albwm ‘Gwenwyn Ysblennydd’ ar  Fflach Cymunedol yn yr hydref. 

 

Gadael Ymateb