Sengl gyntaf Candelas ers blwyddyn – albwm i ddod 

Mae Candelas wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ers blwyddyn, sef ‘Pop Cymraeg’.  

Glaniodd y sengl newydd ar 29 Gorffennaf drwy label I KA CHING, ac mae addewid o albwm  newydd i ddod gan un o grwpiau mwyaf y wlad.  

Mae Candelas, un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru ers y 2010au, a bydd sawl un yn falch  iawn o weld y trac newydd yn ymddangos ganddynt, wrth iddynt hefyd baratoi i ryddhau eu  record hir newydd cyn diwedd 2026.  

Yn dilyn cau Tafwyl o flaen torf orlawn yng Nghastell Caerdydd fis Gorffennaf, mae’r band yn  camu i’w pennod nesaf gyda hyder grŵp sydd wedi siapio cerddoriaeth Gymraeg ers degawd a  mwy. Mae ‘Pop Cymraeg’ yn cyflwyno Candelas ar eu gorau.

“Sialens ydi Pop Cymraeg i greu cân drom ond hapus” meddai’r band.  

“Rhywbeth i danio rhywbeth yn y bol a’r meddwl, ond hefyd i symud y traed. Roedd hi’n bleser  ei chwarae hi am y tro cyntaf yn Nhafwyl.” 

Mae ‘Pop Cymraeg’ yn nodi dechrau cyfnod newydd i un o fandiau mwyaf arwyddocaol Cymru:  sengl newydd, dychweliad mawr ac albwm ar y gorwel.