Yr Urdd a TG Lurgan yn cydweithio am y degfed tro

Mae aelodau o’r Urdd a’r prosiect ieuenctid Gwyddelig TG Lurgan wedi dod at ei gilydd unwaith eto i chwalu ffiniau ieithyddol a pharhau i feithrin perthynas rhwng y ddwy gymuned.

Wythnos hon, bu i tua 400 o bobl ifanc TG Lurgan a 30 o aelodau’r Urdd fynychu cwrs preswyl, Coláiste Lurgan, yn Connemara. 

Yna, ar nos Wener, 21 Awst cynhaliwyd Féile (cyngerdd) er mwyn rhoi cyfle i’r bobl ifanc berfformio caneuon poblogaidd yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, yn ogystal â chaneuon gwreiddiol. Roedd y gyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan fandiau proffesiynol ynghyd â chyn aelodau TG Lurgan. 

Lansiwyd y bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan wythnosau’n unig cyn cyfnod clo Covid-19. Ym mis Ionawr 2021, daethant at ei gilydd yn rhithiol er mwyn creu’r fideo cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddeleg cyntaf erioed, ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Soilse’, sef addasiad o’r gân boblogaidd  ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. Ffrydiwyd y fideo honno dros 100,000 o weithiau o fewn mis o’i ryddhau.

Erbyn heddiw mae eu cyd-gynyrchiadau wedi denu dros filiwn o wylwyr ar draws gwasanaethau ffrydio fideo a cherddoriaeth. 

Mae ymweliad aelodau o’r Urdd â Connemara ym mis Awst eleni’n dathlu degfed gwersyll preswyl y ddau fudiad ieuenctid gyda’i gilydd, gyda’r nod o recordio fideo gerddoriaeth o gân boblogaidd Coldplay, Yellow, yn y Gymraeg a’r Wyddeleg.

Prif weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd perthynas

Un arall sydd wedi ymweld ag Iwerddon i weld y berthynas ar waith ydy Prif Weinidog newydd Cymru. 

“Iwerddon oedd cyrchfan fy ymweliad tramor cyntaf fel Prif Weinidog, gan adlewyrchu pwysigrwydd y berthynas rhwng ein dwy genedl Geltaidd a’r cysylltiadau dwfn rydyn ni’n eu rhannu drwy ein hieithoedd, ein diwylliannau a’n hanes” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’r bartneriaeth hon rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn enghraifft wych o’r berthynas honno ar waith. Drwy ddod â phobl ifanc ynghyd trwy gerddoriaeth, y Gymraeg a’r Wyddeleg, mae’n helpu i feithrin cyfeillgarwch, dathlu ein treftadaeth gyffredin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gadw ein hieithoedd a’n diwylliannau’n fyw ac yn ffynnu. 

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o gyrraedd y degfed cydweithrediad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y bartneriaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth.”

Ceren Roberts ydy Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Urdd Gobaith Cymru ac mae’n falch iawn o lwyddiant y prosiect cydweithio.  

“Mae’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn enghraifft o sut y gall prosiectau dan arweiniad pobl ifanc ffynnu, datblygu a chyfrannu’n uniongyrchol at ddiplomyddiaeth ddiwylliannol” meddai Ceren. 

“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r fenter hon wedi creu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon gydweithio, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â dros 1,000 o gyfranogwyr Cymraeg a Gwyddeleg eu hiaith.”

“Drwy brosiectau creadigol, cyfnewidiadau diwylliannol a chynyrchiadau digidol, mae’r bartneriaeth wedi hyrwyddo statws ieithoedd lleiafrifol, cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, a chyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.

“Mae’r Urdd yn parhau’n ymrwymedig i ddatblygu’r bartneriaeth â TG Lurgan a chefnogi Datganiad ar y Cyd Llywodraeth Cymru ac Iwerddon, gan sicrhau bod pobl ifanc yn parhau wrth galon cydweithredu diwylliannol ac ieithyddol a chreu cyfleoedd iddynt arwain mewn cyd-destun rhyngwladol.”

Bu aelodau’r Urdd yn ymweld â Connemara rhwng 18 a 22 Awst 2026 a’r gyngerdd yn cael ei chynnal ar nos Wener, 21 Awst. 

Dyma fideo ffrwyth llafur cyntaf y bartneriaeth, sef ‘Golau’n Dallu’:

Llun: Ymarfer Aelodau Urdd x TG Lurgan, Awst 2026

Gadael Ymateb