Rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar

Mae rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi, rhifyn Haf 2026. 

Mae’r rhifyn newydd yn un ychydig yn wahanol i’r arfer wrth i dîm Y Selar arbrofi gyda dulliau newydd o gyhoeddi. 

Bydd y rhifyn llawn, 24 tudalen o’r cylchgrawn ar gael yn ddigidol yn unig a hynny o wefan Y Selar. Er hynny, roedd fersiwn llai o’r cylchgrawn, 16 tudalen, ar gael fel atodiad print yn rhifyn cylchgrawn Golwg a gyhoeddwyd ar 6 Awst, ac roedd hefyd copïau’n cael eu dosbarthu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd. 

Y band lleol o ardal yr Eisteddfod, Lafant, oedd ar glawr y rhifyn diweddaraf ac mae cyfweliad gyda Mefin o’r band yn y cylchgrawn. 

Ac mae blas cryf o ardal yr Eisteddfod, Aberteifi a Gogledd Sir Benfro, yn y rhifyn hwn sy’n cynnwys erthyglau hefyd am record ‘Dim Amser’ sy’n ail-ddychmygu albwm eiconig ‘Sefyll ar y Sgwar’ gan Ail Symudiad, Sgwrs Sydyn gyda’r band Dewin, a chyfweliad gyda Lowri Evans. 

Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys eitem Trac Wrth Drac am albwm ‘Disglair’ gan Popeth, y band LoFi Jones sydd yn Y Gornel Werin, ac mae Sgwrs Sydyn hefyd gyda Morgan Elwy wedi iddo ryddhau ei albwm newydd yn ddiweddar. 

Gellir darllen y fersiwn digidol o’r cylchgrawn ar wefan Y Selar nawr, a bydd copi print yn cael ei yrru i aelodau llawn Clwb Selar. 

Mae modd darllen fersiwn digidol y cylchgrawn nawr.  

Gadael Ymateb