Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Gwaith Trwsio’ gan Moddion ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.
Moddion ydy prosiect diweddaraf y cerddor cyfarwydd Gruff Pritchard, ac fe ryddhawyd EP cyntaf y band yn mis Ebrill eleni dan yr enw ‘Weithiau’. Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Branwen Jones.
Dyma’r pumed fideo cerddoriaeth cyfoes newydd mewn cyfres o 10 sy’n cael eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.