Sengl newydd HMS Morris

Mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl newydd – mae ‘Glue’ allan ers 7 Awst ac yn ymgais dlws i fynegi teimlad ryfedd: hiraeth am y straeon a chymeriadau perffaith yr ydym yn eu creu ar hyd ein bywydau. Mae’r meddwl resymegol meddent, yn cydnabod eu bod yn bodoli’n unig yn ein dychymyg, ac mai yn ein breuddwydion yn unig y gallent gynnal eu perffeithrwydd – ond yn tydy hi’n teimlo weithiau eu bod nhw ar fin camu drwy’r gwydr ac ymuno â ni yma, nawr?

Mae ‘Glue’ yn defnyddio sain organ sy’n ennyn atgofion o lan y môr, a gitar sy’n syth allan o glasuron emo y gorffennol, i greu ton emosiynol annisgwyl o bwerus. Pleser prin yw i syrffio’r newidiadau rhwng 3/4 a 6/8, rhwng cyfoeth a theneurwydd, o atgofion cynes i weledigaeth arallfydol.

Ychydig dros dair mlynedd ers eu casgliad diwethaf, ‘Dollar Lizard Money Zombie’, mae HMS Morris wedi datgelu y byddan nhw’n rhyddhau eu pedwaredd albwm, ‘SACI HACS, ar 30 Hydref, 2026 drwy Bubblewrap Collective. 

Gadael Ymateb