Gwobrau Coffa Ail Symudiad yn ôl am bedwaredd flwyddyn

Cynhelir cystadleuaeth Goffa Ail Symudiad yn Neuadd Hermon nos Sadwrn nesaf, 6 Chwefror. 

Sefydlwyd ‘Tlws Her Goffa Richard a Wyn’ er cof am y brodyr Richard ac Wyn Jones gan drefnwyr Fel ‘na Mai yng Nghrymych yn wreiddiol yn 2023. 

Roedd y ddau frawd yn ddylanwadol iawn ym maes cerddoriaeth y De Orllewin, nid yn unig fel aelodau o’r band hirhoedlog Ail Symudiad, ond hefyd fel sylfaenwyr label a stiwdio Fflach yn Aberteifi. 

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i’r gystadleuaeth gael ei chynnal felly, ac mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys y bandiau Dros Dro yn 2023, Gelert yn 2024 a Dewin llynedd yn 2025.

Llynedd fe ehangodd y gystadleuaeth gydag ail wobr yn cael ei chynnig i artistiaid unigol, sef ‘Gwobr Kevin.’ Danny Sioned enillodd y gystadleuaeth llynedd. 

Yn wreiddiol, roedd y gystadleuaeth yn agored i artistiaid ifanc newydd o Sir Benfro, Sir Gâr neu Geredigion yn unig, ond bellach mae’n agored i artistiaid a bandiau o Gymru gyfan. 

Mae’r wobr am ennill y gystadleuaeth yn cynnwys cyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘na Mai, ynghyd ȃ gwobr ariannol. 

Gwybodaeth lawn ar wefan Fel ’na Mai.

Llun: Dewin a Danny Sioned yn derbyn eu gwobrau llynedd.