Mae’r band pync-roc o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, wedi rhyddhau eu sengl wreiddiol diweddara ar ôl rhyddhau ei fersiwn o ‘Hapus’ gan Topper diwedd 2025.
‘Dwisio Chdi’ ydy enw’r trac newydd gan y band ifanc sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 22 Mai, a bydd y band i’w gweld yn perfformio ar benwythnos cyntaf Eisteddfod yr Urdd.
Ar ôl blwyddyn arall brysur o gigio rhwng yr Eisteddfod, Oakeley Fest a’r Ddawns Rhyng-gol mae’r band yn ôl gyda sengl ac yn chwara gig cartref i ddrymiwr y band, Owain Siôn, sydd yn dod o Ynys Môn.
Bydd y sengl newydd yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd sydd wedi gweld y band dros y blynyddoedd, a dyma’r gân olaf i Maes Parcio ryddhau o’r caneuon a recordiwyd ganddynt fel rhan o’u EP yn 2023, ond mae’r gân wedi bod mewn bodolaeth ers dipyn cyn hynny, fel yr eglura un o’r aelodau.
“Ma Dwisio Chdi yn gân serch. Nesi ffeindio y lyrics i’r gân mewn pentwr o nodiada fi pan oni’n blwyddyn 7, felly 10 blwyddyn yn ôl” meddai Gwydion, sef prif leisydd y band.
“Da ni heb newid nhw o gwbl achos bo nhw’n eitha ffyni, ac yn dal y diniweidrwydd o hoffi rhywun pan oedda ni’n ifanc.”
Dal egni Maes Parcio
Fe gafodd y gân ei recordio yn stiwdio Sain gydag Ifan Jones o Candelas yn cynhyrchu, yn yr un sesiwn ag y recordiodd y band ‘Hapus’, sef eu sengl ddiwethaf a ryddhawyd ym mis Tachwedd.
Mae’r band wedi bod yn brysur iawn yn ysgrifennu ac yn paratoi i recordio cerddoriaeth newydd gan hefyd baratoi at haf prysur o gigio. Mae’r gân yn dal egni y band yn berffaith fel mae Gwydion yn egluro.
“Odda ni efo y Ramones dan sylw pan odd ni’n recordio hi oherwydd bo nhw efo lyrics syml yn eu caneuon nhw ond bo nhw’n gweithio oherwydd bod naws y cerddoriaeth yn ffitio y geiria” meddai.
“Da ni’n cal lot o hwyl pan da ni’n chwara y cân yn fyw oherwydd dwi’n teimlo fel bod o’n crynhoi vibe ni fel band rili. Mae o’n gyflym, eitha trwm, Ilawn egni a bach yn wirion.”
Mae ‘Dwisio Chdi’ allan ar label INOIS ac roedd cyfle i weld Maes Parcio yn perfformio fel rhan o Wŷl Triban ar nos Sadwrn 23 Mai ar faes Eisteddfod yr Urdd ger Llangefni.