Panedeni yn rhyddhau ail sengl cyn yr EP

Mae’r ensemble traws ddiwylliannol o’r Gogledd, Panedeni, yn rhyddhau Atamanaa (‘gobeithiaf’) ar 1 Mai cyn eu perfformiad yn FOCUS Wales

‘Atamanaa’ (sy’n golygu ‘gobeithiaf’ mewn Arabeg) yw’r ail sengl a theitl y trac oddi ar EP sydd ar fin ei chyhoeddi gan Panedeni. 

Mae’r trac yn dilyn eu sengl gyntaf, ‘Tafod’, cân Gymraeg, yn gynharach eleni a bydd yr EP yn dilyn ar 19 Mehefin ar label Sionci, sef label Tŷ Cerdd dan arweiniad artistiaid. 

Mae enw’r band, sef ‘Panedeni’, yn cyfuno’r gair Cymraeg ‘paned’ â the Adeni o Yemen, gan symboleiddio diwylliant cyffredin Arabaidd a Chymreig a dod â phobl ynghyd.

Ysgrifennwyd Atamanaa ar y cyd gan Yasmine Latkowski (Panedeni) ac Ayoub Boukhalfa (Côr Un Byd Cymru), gan dynnu ar brofiadau byw o’u treftadaeth yn y Dwyrain Canol (Yemeni a Moroco) ac o fod yn artistiaid sy’n byw yng Nghymru. Gan fod â lleisiau Arabeg swynol, ynghyd â’r offerynnau oud, ffliwt, bas dwbl, ffidil, piano ac offerynnau taro Arabaidd, mae Atamanaa yn codi o hiraeth dwfn am heddwch, ac mae’n neges o gariad a gobaith o Gymru i’r Dwyrain Canol.

Mae fideo ar gyfer Atamanaa, a gefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C, hefyd wedi cael ei gyhoeddi ar 1 Mai. Ffilmiwyd y fideo a’i chyfarwyddo gan Rob Corcoran (73 Degree Films) yn y Gogledd ger Llangollen gydag Ayoub Boukhalfa, ac mae Yasmine yn disgrifio’r fideo fel “neges o gariad o Gymru i’r Dwyrain Canol”. 

Mae’r EP Atamanaa sydd ar fin ei chyhoeddi yn ehangu sain draws-ddiwylliannol Panedeni, gan gynnwys offeryniaeth werin Arabaidd a Chymreig. 

Mae wedi’i chanu mewn pedair iaith, sef Cymraeg, Saesneg, Arabeg a Bosnieg, ac mae’n arddangos cymysgedd amlddiwylliannol o gerddoriaeth wreiddiol a cherddoriaeth draddodiadol wedi’i hailddychmygu. Mae gwaith Panedeni wedi’i wreiddio mewn cynhwysiant, gan ddathlu amrywiaeth a chreu gwaith sy’n dwyn ynghyd dreftadaethau cerddorol unigryw yng Nghymru.

“Mae Atamanaa yn bersonol iawn i mi ac Ayoub” meddai Yasmine Latkowski. 

“Ers cyfansoddi’r gân ar-lein heb erioed gwrdd â’n gilydd, rydyn ni bellach wedi’i dysgu i gorau ledled Cymru ac yn edrych ymlaen at ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Llangollen ar 12 Medi.”

Mae ‘Atamanaa’ ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol. 

 

Gadael Ymateb