Cyhoeddi manylion lansiad albwm Dewin

Mae label Fflach Cymunedol wedi cyhoeddi manylion rhyddhau albwm cyntaf un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sin, Dewin. ‘Dan y Dderwen’ ydy enw’r record hir newydd a bydd yn cael ei ryddhau ar 1 Mai. 

I ddathlu rhyddhau albwm cyntaf y band mae Dewin yn cynnal noson lansio yn Y Seler, Aberteifi ar y dyddiad rhyddhau. “Dewch i wrando, dawnsio, caru, crasu, cael eich swyno ac i brofi awyrgylch arbennig byd dychmygol Dewin” ydy cyngor eu label.

Bydd modd archebu tocynnau’r gig lansio am £12, neu bydd modd talu £15 ar y drws.  

 

Gadael Ymateb