Ffilm ddogfen yn dilyn Pys Melyn i Japan

Mae Hansh, S4C wedi cyhoeddi ffilm ddogfen newydd sy’n dilyn taith y band Pys Melyn i Japan ym mis Rhagfyr 2025. 

Mae’r band wedi sefydlu ei hunain fel un o fandiau amlycaf Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan rannu teitl ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar 2025 gyda Bwncath.

Ar ôl gigio ledled Cymru, y DU a gorllewin Ewrop, daeth y cyfle i’r criw fynd ar daith fythgofiadwy i Japan ar ddiwedd y flwyddyn ac roedd camerâu Hansh yma i ddogfennu’r profiad.

Mae’r ffilm yn dangos eu hanturiaethau’n gigio dros y wlad, yn recordio sesiynau byw, ac yn taflu eu hunain i mewn i ddiwylliant Japan. Mae modd gwylio’r ffilm ddogfen ar iPlayer ac ar YouTube Hansh. 

 

Llun: Pys Melyn yn Sesiwn Fawr Dolgellau (gan Huw Morris-Jones)

Gadael Ymateb