Mae Cronfa Fideos PYST x S4C wedi agor eu pedwaredd rownd, gan roi cyfle i 20 o artistiaid newydd greu eu fideo cerddoriaeth Cymraeg cyntaf yn ystod y flwyddyn i ddod.
Ers ei lansio yn 2022, mae’r gronfa wedi ariannu hanner cant o fideos gan artistiaid newydd nad oedd wedi cael cyfle i wneud fideo cyn hynny.
Mae’r gronfa’n rhoi cyfle i artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir i ymwneud â diwylliant Cymraeg am y tro cyntaf, yn ogystal â chreu deunydd hyrwyddo gwreiddiol i artistiaid newydd, a chefnogi labeli recordio Cymru.
Un oedd yn llwyddiannus yn gwneud cais o’r Gronfa ddiwethaf oedd yr artist o Fachynlleth, Osgled, sef prosiect yr artist Bethan Ruth.
“Ro’n i mor ddiolchgar o gael derbyn arian o gronfa fideos PYST x S4C i greu fideo cerddoriaeth llynedd – teimlo fel cyfle prin oedd yn golygu llawer i mi er mwyn gallu mynd ati i wireddu fy ngweledigaeth greadigol” meddai Bethan.
“Lleddfodd y pwysau ariannol – sy’n aml yn cyfyngu ar brosiectau annibynnol, ond rhoddodd hefyd y rhyddid i mi gydweithio â’r artist fideo Laura Phillips dwi wir yn edmygu a’i defnydd o ffilm 16mm i saethu, sy’n gyfrwng costus!
“Mae cronfeydd fel hyn wir yn helpu cefnogi artistiaid Cymreig i greu celf o ansawdd uchel sy’n gwthio ffiniau o Gymru. Fe wnaeth y gefnogaeth ariannol helpu’r broses gyfan o allu bod yn fwy uchelgeisiol, cydweithredol, a boddhaol yn greadigol.”
Asiantaeth gerddoriaeth PYST Cyf sy’n rhedeg y gronfa, ac eu Prif Weithredwr ydy Alun Llwyd.
“Mae’r Gronfa yn llenwi bwlch yn y gefnogaeth mae artistiaid newydd a labeli ei angen yn y dyddiau cynnar” meddai Alun.
“Mae fideo yn arf hyrwyddo gwerthfawr ac mewn dyddiau o ffrydio cerddoriaeth lle mae arian i greu deunyddiau hyrwyddo yn brin, mae gallu cynnig y math yma o gefnogaeth yn allweddol – felly rydym yn ddiolchgar i S4C am barhau i gefnogi’r Gronfa.”
Mae Cronfa PYST x S4C yn cynnig cyfraniad o £500 i artistiaid gynhyrchu eu fideo cyntaf, neu eu fideo Cymraeg cyntaf.
Prif Swyddog Cynnwys S4C, sy’n cefnogi’r prosiect, ydy Llion Iwan.
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Cronfa fideos cerddorol PYST eto eleni” meddai Llion.
“Mae’r Gronfa yn agor y drws ar ddiwylliant Cymraeg a Chymreig i gynifer o artistiaid, yn gerddorion a chyfarwyddwyr, gan ganiatáu iddynt ddatblygu eu talent, a chreu cynnyrch gweledol gwreiddiol sy’n adlewyrchiad o gerddoriaeth ac amrywiaeth Cymru.
“Edrychwn ymlaen yn fawr at weld gwaith yr 20 artist fydd yn hawlio cefnogaeth y gronfa eleni.”
Mae modd gwneu cais am y gronfa ar-lein.