Mae’r rhestr fer olaf ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni wedi’i chyhoeddi.
Datgelwyd enwau’r dair gân sydd wedi cyrraedd brig y bleidlais yn y categori ‘Cân Orau’ ar raglen Ifan Davies ar BBC Radio Cymru heddiw.
Y tri ar y rhestr fer ydy:
Leo – Dafydd Owain
Boys Will Be Boys – Dros Dro
Disgyn – Buddug
Mae’r wobr hon yn cael ei noddi gan PRS for Music.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei ddatgelu ar lwyfan noson Wobrau’r Selar nos fory, 21 Chwefror, yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Mae dal modd prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar hyn o bryd trwy glicio ar y ddolen isod.
