Mr Phormula yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar

Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Mr Phormula, Ed Holden, ydy enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni. 

Cyhoeddwyd y newyddion ar sioe Radio Cymru Ifan Davies ddydd Gwener, 20 Chwefror, ddiwrnod cyn y noson wobrau yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. 

Roedd Ed ar y rhaglen yn sgwrsio gyda Ifan Davies am y wobr. 

Wrth dderbyn y wobr mae Ed yn dilyn rhestr glodwiw o fawrion y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg sydd wedi ennill y teitl yn y gorffennol. Pat a Dave o’r band Datblygu oedd enillwyr cyntaf y wobr yn 2016, ac ers hynny mae Geraint Jarman (2017), Heather Jones (2018), Mark Roberts a Paul Jones (2019), Gruff Rhys (2020), Gwenno (2021), Tecwyn Ifan (2022), Lisa Gwilym (2023),  Gai Toms (2024) ar Gorwel Owen llynedd yn 2025, i gyd wedi derbyn y wobr. . 

Cario’r sin hip-hop

“Mae’r wobr Cyfraniad Arbennig yn aml wedi’i rhoi i artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg dros nifer o flynyddoedd” eglura Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar. 

“Does dim amheuaeth o gwbl bod Ed Holden yn llawn haeddiannol o’r wobr. Dwi wedi dweud hyn lawer gwaith – mae’r boi fwy neu lai wedi cario’r sin hip-hop Gymraeg ar ei ysgwyddau ers chwarter canrif ac mae wedi arloesi fel bîtbocsiwr a rapiwr yn y Gymraeg. 

“Mae’r genre hip-hop Cymraeg wedi gweld tipyn o lanw a thrai o ran poblogrwydd a bywiogrwydd dros y blynyddoedd, ond Ed Holden ydy’r un peth sydd wedi bod yn gyson trwy gydol hynny. 

Arloesi a datblygu

Daeth y gŵr o Amlwch i amlygrwydd gyntaf fel rapiwr yn y band Pep le Pew ac mae wedi arloesi gyda’r genre hip-hop, ac fel bit bocsiwr, yn y Gymraeg fyth ers hynny. 

Bu’n aelod o Y Diwygiad gydag Aneirin Karadog, cyn i’r ddau ddod ynghyd eto gyda’r band Genod Droog, a dod yn fand mwyaf Cymru am gyfnod byr. 

Ers 2010 mae Ed yn cynhyrchu ac yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol dan yr enw Mr Phormula, ac mae wedi cyd-weithio gyda thoreth o rapwyr eraill yn y Gymraeg, ac mewn ieithoedd eraill. 

Mae Mr Phormula’n adnabyddus fel un o bîtbocswyr gorau’r wlad – mae wedi bod yn bencampwr Cymru, ac wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth bîtbocsio’r byd. 

Parhau’n weithgar

Mae Mr Phormula’n parhau i fod yn un o gerddorion gweithgar Cymru, ac mae hynny’n ystyriaeth bwysig i’r Selar wrth benderfynu ar eniydd y wobr Cyfraniad Arbennig. 

“Wrth ddyfarnu’r wobr Cyfraniad Arbennig, rydan ni’n ceisio talu teyrnged i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol dros gyfnod hir o amser, ac sy’n parhau’n weithgar” eglura Owain Schiavone.

“Mae hynny’n sicr yn wir am Ed, wrth iddo ryddhau EP gyda’r prosiect Hel Clecs ar ddechrau 2025, ac yna’r albwm Cymraeg Worldwide ym mis Awst, gan gyd-weithio gyda rapwyr o amryw wledydd.  

“Dyma gerddor sydd wedi goroesi, esblygu, arloesi a rhagori yn ei faes, ac mae’n llawn haeddu’r wobr Cyfraniad Arbennig.”

Teyrnged Dyl Mei i Eddy Sbageti

Un o’r bobl sydd wedi gweithio’n gyson gydag Ed dros y chwarter canrif a mwy diwethaf ydy’r cerddor a chynhyrchydd Dyl Mei, ac roedd yn awyddus i dalu teyrnged i’w ffrind. 

“Mr Phormula! Ed Holden, Eddy Sbageti, neu Edward i’w fam.

“Ges i’r pleser o ddod i adnabod Ed tua 1999 ar ôl i Aron Pep le Pew gwrdd ag o tra ar gwrs yng ngholeg Bangor. Y bwriad oedd dod ag Ed mewn i Pep le Pew ar y decks yn unig. Oedd o’n hogyn swil, er yn hapus i siarad yn ddi-ben-draw am y Wu Tang Clan, Chemical Brothers,  a Run DMC. 

“Buan iawn nathon ni sylweddoli bod yna fwy i Ed nag scratchio hen recordiau. Yn tyfu mewn hyder yn araf bach dros flynyddoedd cynnar Pep le Pew,  trodd Ed i fod yn un o’r rapwyr a chynhyrchwyr hip hop mwyaf gweithgar, a dyfeisgar mae’r iaith Gymraeg wedi erioed wedi cael. 

“27 mlynedd ers i Ed gamu mewn i stiwdio Blaen y Cae, mae o’n dal i fynd yn gryf, yn creu, yn hybu ac yn hedfan baner hip hop Cymraeg dros y byd.

“Hefyd, mae werth sôn, nid llawer o bobol sydd yn gallu dweud eu bod wedi cael Geraint Jarman yn enwi cân ar ei ôl! 

“Llongyfarchiadau Ed, ar y wobr. A dwi’n edrych ymlaen i glywed Eddy Sbageti yn 70 oed yn sefyll ar lwyfan yn rhywle yn poeri geiriau, oherwydd y gwir ydy – neith o byth slofi a diolch byth am hynny.” 

Aneirin Karadog

Un arall sy’n ffrind mawr i Ed ac wedi cyd-weithio a chyd-rapio’n gyson gydag ef ydy’r Prifardd Aneirin Karadog. Roedd yntau’n cytuno ei fod yn llawn haeddu’r wobr. 

“Mae Ed Holden, a’i alter ego Mr Phormula, yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth a ddaw gyda’r wobr hon” meddai Aneirin.

“Mae dau beth yn gyrru ei lwyddiant, sef angerdd a disgyblaeth.  Mae ei angerdd at hip-hop ac at y Gymraeg wedi uno mewn ffordd gofiadwy gyda nid yn unig dwsinau o ganeuon yn tasgu o’i stiwdio, ond hefyd grwpiau a phrosiectau sydd wedi tanio’r dychymyg.  O ‘Pep Le Pew’, i ‘Llofruddion’, O ‘Y Diwygiad’ i ‘Genod Droog’, ac yna fel Mr Phormula, heb grybwyll llwyth o brosiectau difyr eraill, mae Ed wedi swyno miloedd gyda’i ddoniau.  

“Ac am ddoniau! Nid yn unig y mae Ed yn rapio, ond mae hefyd yn gynhyrchydd a bîtbocsiwr sydd wedi cynrychioli Cymru ar lwyfannau rhyngwladol  – yn llythrennol mewn cystadleuaeth bîtbocsio. Mae ei ddisgyblaeth yn esiampl wych i’w weld – o roi’r gorau i yfed llaeth flynyddoedd yn ôl er mwyn gwella ei allu i fitbocsio i’w amserlen o godi’n blygeiniol i weithio yn stiwdio yn ddyddiol. Mae Ed wedi newid ei ffordd o fyw er mwyn ei grefft a’i gelfyddyd.

“Fy mraint yw cael dweud ein bod ni wedi teithio o lwyfan i stiwdio ledled Cymru ac i LA gydag Ed. Dechreuodd ein taith fel parnters in rhyme wrth inni gwrdd a rapio’n fyrfyfyr, neu freestylio o amgylch y tân ym maes pebyll Maes B lle bydden ni’n clywed pobol yn gweiddi “Canwch y ffernols! Mae rap Cymraeg wedi hen ennill ei blwy ers hynny, gyda chenhedlaethau newydd o rapwyr a chynhyrchwyr yn codi. Mae Ed a’i ddyfalbarhad, yn ogystal â’i waith o gwmpas ysgolion a gyda phlant a phobol ifanc Cymru, wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad Hip-hop Cymraeg.”

Bydd Mr Phormula, Ed Holden yn derbyn ei wobr Cyfraniad Arbennig (a noddir gan Dydd Miwsig Cymru) fel rhan o noson Wobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 21 Chwefror. 

Gadael Ymateb