M-digidol yn cyd-weithio gyda Mr Phormula ar drac hafaidd

Mae M‑Digidol wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg newydd ‘Be Chi Sefyll Am?’ sy’n ei weld yn cydweithio gyda Mr Phormula ar drac sy’n dod â sain fwy hafaidd a melodig i’r prosiect.

Erbyn hyn, mae Rhun Gwilym wedi creu argraff sylweddol ers lansio ei brosiect electronig M‑Digidol, gyda chyfres gyson o ganeuon electro.

Mae ‘Be Chi Sefyll Am?’ yn troi at naws ysgafnach a mwy hafaidd, gyda llais Rhun yn agor cyfeiriad pop cynhesach o fewn ei gynhyrchu. 

Mae cyfraniad Mr Phormula, sef un o artistiaid hip‑hop mwyaf arloesol Cymru, yn ychwanegu egni, rhythm a chymeriad, gan roi naws cyfoes sy’n gwbl wreiddiol i’r sîn Gymraeg.

Mae’r sengl yn barhad o gydweithrediad M‑Digital gyda label HOSC, sy’n cefnogi lleisiau newydd ym myd cerddoriaeth electronig Cymru.

Gadael Ymateb