Cyn Cwsg  yn rhyddhau sengl fel blas o EP

Wrth gyhoeddi manylion EP nesaf y band fydd allan yn y flwyddyn newydd, mae Cyn Cwsg hefyd yn rhyddhau sengl sy’n cynnig blas o’r hyn sydd i ddod. ‘Katter’ ydy enw’r sengl sydd allan ar 20 Hydref, ac mae’n damais i aros pryd nes yr EP ‘Let A Thousand Blossoms Bloom’ fydd allan ar 26 Ionawr.

Trac dau funud o hyd ydy ‘Katter’ sy’n gyfres lliwgar o sylwadau cymdeithasol tafod yn y boch, abswrd ar brydiau.

Yn parhau i gydweithio â’r cynhyrchydd Tom Rees, mae ‘Let a Thousand Blossoms Bloom’ yn cyfuno indie-roc miniog, sych Television â seicadelia lliwgar sy’n tynnu ar gariad diamod y band aelodau at hen ffefrynnau fel The Beatles, Hergest ac America.

Yn symud tu hwnt i sŵn eu EP cyntaf, mae’r record yn dal band sy’n fwy rhydd ac anturus nag erioed, yn dilyn eu chwilfrydedd cerddorol ac yn mwynhau gweld lle gall hynny fynd â nhw.

Yn dilyn cân am y ‘Möbius Strip’, ffenomen geometrig sydd ag un ochr yn unig, mae awch Cyn Cwsg i ysgrifennu geiriau fymryn yn anghonfensiynol yn parhau gyda’u sengl newydd egnïol, ‘Katter’. Mae’r trac wedi’i enwi ar ôl y gwleidydd dadleuol, feiral o Awstralia, Bob Katter. 

Gadael Ymateb