Mae’r band indie Cyn Cwsg wedi dychwelyd gyda’r sengl newydd ‘Megan Plis’.
Dyma eu cynnyrch newydd cyntaf ers rhyddhau eu EP cyntaf ‘Pydru yn yr Haul’ a laniodd fis Mehefin diwethaf.
Mae’r trac diweddaraf ganddynt yn mynd i gyfeiriad fwy cynnil, ond yn cadw elfennau anthemig y senglau blaenorol. Alt-roc tyner!
Yn fand o ogleddwyr yn byw yng Nghaerdydd yn eu hugeiniau canol, mae’r geiriau’n procio’r hanfodlonrwydd tawel sy’n gallu sleifio i fywyd yn y brifddinas fechan, a pha mor hawdd ydi syrthio i batrwm cyfforddus yr un hen gylchoedd o bobl.
“Ma’r gân yn trafod gor-ddibynnu ar rywyn arall i dy godi di allan o dy rigol, a chymharu dy hun efo’r person yna yn ormodol yn y lle cynta” meddai Tomos o’r band.
“Ond cân serch ydi hi yn y bon” ychwanega.
‘Llai o feddwl o flaen llaw’
O ran sŵn, mae’r trac yn troi tuag at balet fwy meddal. Llai o haenau, gitars acwstig a theimlad fwy analog na’u gwaith blaenorol. Meddyliwch Elliott Smith, MJ Lenderman, Big Thief, Geese ac ochr dyner y Gorkys.
Wedi’i recordio a’i chymysgu gyda Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard), mae Tom hefyd yn ymddangos ar y corws olaf, yn rhoi cynnig ar ganu yn Gymraeg!
“Lot llai o feddwl o flaen llaw wedi bod i’r rhannau’r gitar ayb gan bo ni erioed di chwara hi’n fyw cyn recordio, felly lot o’r stwff yn first take syth mewn i’r ddesg recordio, cwl de” meddai Tomos wrth drafod y broses recordio.
Ers ‘Pydru yn yr Haul’, mae Cyn Cwsg wedi adeiladu momentwm yn raddol, gyda sesiynau ar gyfer BBC 6 Music a BBC Introducing yn Maida Vale, a pherfformiadau yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a Sŵn. Mae gigs haf ar y gweill, gan gynnwys dau yn y Great Escape yn Brighton.
Er bod y gân yn llawn difaterwch dinesig ac yn pendroni dros arferion drwg, mae cysur annisgwyl iddi. Dyma barasetamol i’r enaid coll!