Morgan Elwy yn rhyddhau blas olaf o’i albwm

Mae Morgan Elwy wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, sy’n flas pellach o’i albwm nesaf,  ‘Amser Da mewn Amser Drwg’.

‘Pwy sy’n dod?’ ydy enw’r sengl newydd gan yr artist reggae Cymraeg poblogaidd. 

Mae hon yn drac reggae mewn arddull dancehall unigryw a gwreiddiol gan Morgan Elwy, gyda geiriau’n gofyn pwy sy’n dod i’r chwyldro rhydd, cydwybodol? 

Gan gyfuno dylanwadau reggae â geiriau Cymraeg, mae’r gân yn cyfleu teimlad o ddisgwyliad a gobaith. 

Dyma’r sengl olaf o’r albwm 10 trac, ‘Amser Da mewn Amser Drwg’, a fydd yn cael ei ryddhau ar 29 Mai.  

Mae’r albwm yn ffrwydrad o bositifrwydd a gobaith mewn cyfnod o ansicrwydd, gan asio dylanwadau a diwylliannau cerddorol a dod â phobl ynghyd mewn cyfnod o wrthdaro cynyddol a heriau byd-eang.

Mae Morgan Elwy yn artist o Ogledd Cymru sy’n adnabyddus am reggae Cymraeg, gan gyfuno dylanwadau dub, roots a blues gyda negeseuon cydwybodol o heddwch a hunaniaeth. 

Ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn 2021, mae wedi adeiladu enw cryf yn gyflym drwy berfformiadau mewn gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru, gan hefyd ennill Cân i Gymru hefo’r gân poblogaidd ‘Bach O Hwne’. 

 

Gadael Ymateb