Mae Y Brodyr Magee, sef y band o bum brawd o Gaergybi sy’n creu cerddoriaeth Gymraeg gyda naws gwerinol, wedi rhyddhau eu sengl newydd.
Mae’r brodyr wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ers blynyddoedd bellach ac wedi recordio albwm o’r diwedd, sef casgliad o ganeuon gwreiddiol sydd wedi eu hysbrydoli gan bobl, llefydd a storiâu sy’n gyfarwydd i’r band.
‘Cariad Da’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf ganddynt sydd allan ar y llwyfannau digidol arferol ers 7 Chwefror. Bydd albwm 11 trac o’r enw ‘5’ i ddilyn ar y 7 Mawrth ar label Bryn Rock.