Knuckle MC yn cydweithio gyda Crwban ar sengl

Mae sengl ddiweddaraf yr artist hip-hop, Knuckle MC, yn ei weld yn cyd-weithio gyda’r artist electronig Crwban.

‘B.D.O.T’  ydy enw’r sengl newydd sydd nid yn unig yn dod â’r ddau artist ynghyd, ond hefyd yn dod â’r ddau label, sef Côsh a’i chwaer-label HOSC, at ei gilydd.  

Knuckle MC ydy prosiect diweddaraf Dewi Foulkes, oedd yn arfer bod yn aelod o’r grŵp chwedlonol, Derwyddon Dr Gonzo, ac mae’n ddilyniant i’r senglau blaenorol ‘Anadlu’ a ‘Derbyn Cyfrifoldeb’ a ryddhawyd yn 2025. 

Mae ‘B.D.O.T’ yn gam hyderus ymlaen i Crwban a Knuckle MC, wrth i’r bartneriaeth blethu hip hop a drwm a bas efo’i gilydd, gyda geiriau ffraeth Dewi Foulkes yn gweddu’n berffaith gydag alawon a rhythmau cyfrwys Mathonwy Llwyd, sef Crwban. 

Mae Côsh wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg ers dros 20 mlynedd bellach, ond cafodd HOSC ei sefydlu rhai blynyddoedd yn ôl i gefnogi artistiaid electroneg newydd yng Nghymru. 

Ers hynny, mae Tokomololo, M-Digidol, CF24 a Crwban wedi dod i’r amlwg, a’n rhyddhau’n gyson ar y label. 

Gadael Ymateb